Welsh English
Login : Text Only : Screen Reader : Text Size: Decrease Font Size Increase Font Size

Croeso!

Croeso cynnes i Wefan Ysgol Gynradd Gymraeg Cwmnedd. Lleolir yr ysgol yng nghanol tref Glyn-nedd. Mae'n gwasanaethu rhannau gogleddol Cwmnedd a'r cymoedd cyfagos. Mae'r dalgylch yn cynnwys Blaengwrach,Resolfen ,Melincwrt, a Chlun a daw plant hefyd o Bontnedd Fechan ym Mhowys. Mae'n rhan o ardal weinyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.  Derbynnir disgyblion o'r ystod gallu llawn. Disgrifia'r ysgol eu cefndir fel un nad ydyw'n freintiedig nac yn ddifreintiedig ,a disgrifir yr ardal fel un sydd heb fod yn ffyniannus nac o dan anfantaus economaidd. Ysgol Benodedig Gymraeg yw Cwmnedd, sy'n golygu mai'r Gymraeg yw prif gyfrwng yr addysgu, ond anelir at sicrhau bod y disgyblion yn rhugl yn y ddwy iaith erbyn iddynt drosglwyddo i'r ysgol uwchradd.

Mae'r ysgol hon yn bodoli er mwyn ein plant lle byddant yn dysgu ac yn tyfu, yn datblygu eu hunigolrwydd , chwilfrydedd a'u hannibyniaeth. Felly rydym am sicrhau fod pob plentyn yn teimlo fod gwerth iddo a chariad tuag ato a'i fod yn teimlo'n ddiogel, ein bod yn canmol y plant yn gyson a bod pob plentyn yn profi'r teimlad pleserus o lwyddiant. Er mwyn cyflawni hyn mi fyddwn yn darparu cwricwlwm eang a chyfoethog. Mi fydd hyn yn galluogi'n plant i dyfu'n oedolion cyflawn a hyderus am weddill eu bywydau a defnyddiwn bob cyfle i annog hyder yn y plant ac i wella eu hunan ddelwedd.

Gobeithir fod yr wybodaeth a geir ar y wefan yma yn dangos natur y ddarpariaeth sydd gennym ar gyfer eich plentyn.


         
                  

 

© 2009 developed and powered by School Trends.net